# Gwobrau Tir na n-Og
Manon Steffan Ros
Mae Pluen gan Manon Steffan Ros yn adrodd hanes Huw, bachgen ifanc sy'n ymchwilio i hanes brawd ei nain - ac sydd yn gweld Nain, hithau, yn dioddef o dementia. Y diweddaraf yn ein cyfres o bytiau gan awduron rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2017.